Croeso a PACE.

Beth mae PACE yn ei gynrychioli?
Mae PACE yn cynrychioli Gweithgaredd Corfforol wedi’i Gydlynu i Bawb.

Beth yw PACE?
Menter leol yw PACE i hybu gweithgaredd corfforol ymhlith y bobl hynny y mae ganddynt glefyd coronaidd y galon neu sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd coronaidd y galon. Os ydych chi’n un o’r bobl hyn mae’n bosib y bydd eich meddyg teulu yn awgrymu eich cyfeirio at y cynllun hwn.

Beth allaf ei ddisgwyl gan staff PACE?


Mae gan holl staff PACE ddyletswydd gofal tuag at bob cleient sy’n cael ei gyfeirio. Bydd trafodaeth lawn yn cael ei chynnal gyda phob cleient ynglyn â’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig
â diffyg gweithgaredd yn ogystal â manteision gweithgareddau.
Bydd pob rhaglen weithgareddau yn ystyried anghenion iechyd a disgwyliadau’r unigolion. Bydd unrhyw broblemau posib yn cael eu nodi ar gyfer y rheiny nad ydynt yn gyfarwydd â gweithgareddau corfforol. Pan fyddwch yn cael eich cyfeirio gan eich meddyg teulu bydd staff PACE yn sicrhau eich bod yn deall cynnwys y cynllun a’r hyn a ddisgwylir oddi wrthych o ran cyfranogiad a gwaith dilynol, manteision a risgiau ymarfer ac yn gofyn i chi lofnodi ffurflen cydsyniad gwybodus.

Yna bydd staff PACE yn cynnal ymgynghoriad cychwynnol a fydd yn cynnwys:
• Hanes meddygol / hanes teuluol
• Ffordd o fyw, lefel ymarfer corff / gweithgaredd
• Maeth / cymeriant dietegol
• Alcohol
• Lefel a hanes smygu
• Nodau personol
• Asesiad ffitrwydd – taldra, pwysau, Mynegai Màs y Corff, Curiad y Galon wrth Orffwys, Pwysau Gwaed, Gallu Aerobeg.

Byddwch yn cael taith o’r cyfleuster lle bydd eich rhaglen weithgareddau’n cael ei chynnal (os yn briodol) a’ch cyflwyno i aelodau eraill y staff.

 

Cymraeg


For more information about PACE Exercise Referral Scheme or to contact us please email us or call: 01639 875603 or 07976 317577